MY SITE
  • HAFAN / HOME
  • BARDDONI / POETRY
  • LlYFRAU / BOOKS
  • DARLLEDU / BROADCASTING.
  • Ieithydd / Linguist
  • Blog
  • Cysylltu / Contact

Blog

Gŵyl Ddewi Hapus (Hwyr!)

3/10/2020

1 Comment

 
​​Diolch i Fenter Iaith Gwendraeth Elli ces y fraint o ddathlu gŵyl ein nawddsant yn y ffordd orau posib, sef drwy foli Dewi Sant ar ffurf tribannau morgannwg ac ar ffurf rap!
 
Yn y bore ces fynd i leoliad hyfryd siop fferm Parc y Bocs, Cydweli, i gydweithio â phump o ddysgwyr o allu amrywiol o ledled Cwm Gwendraeth.  Ces foment fymryn yn bryderus wrth ddechrau ac wrth i bawb gyflwyno ei gilydd, pan ddywedodd mewn o’r enw Sarah wrtha i mai dymas oedd ei gwers Gymraeg gyntaf! Bu bron imi dagu ar fy nghawl cennin!  Gwahoddwyd fi yno i gynnal sesiwn ysgrifennu crfeadigol gyda dysgwyr!  Ond buan y daeth Sarah I ddangos ei gallu naturiol gyda ieithoedd wrth inni fwrw mlaen i gyflwyno mesur y triban morgannwg i’r criw, gan ddadansoddi yn gyntaf ‘Ym Mhontypridd mae `nghariad’.  Dyma wedyn fynd ati I geisio cyfansoddi triban neu ddau yn dyrchafu Dewi.  Y cam cynta foedd hel gwybodaeth amdano, cyfle i bawb sgwrsio yn eu cymraeg gorau i rannu eu hoff chwedl neu goel am Dewi ac addysgu eraill. Ni wyddwn i fod Dewi, yn honedig, wedi dod â gwenyn yn ôl gydag e o’r Iwerddon. Dyna esbonio’r cyfeiriad at wenyn yn y pennill cyntaf.
 
Pob clod i bob un o’r eginfeirdd, gan iddyn nhw gyfansoddi’r ddau driban canlynol ar y cyd:
 
Yn Nhyddewi mae gwenyn,
Yn nhyddewi mae cennin,
Yn Nhyddewi mae mab y wyrth
I fynd trwy byrth y brenin.
 
Yn Nhyddewi mae pluen,
Yn Nhyddewi mae c’lomen,
Yn Nhyddewi mae mab I Non
A glendid calon lawen.
 
Glenda, Heather, Liz, Sarah a Liza a’i cant
 
Cyfle wedyn I gydweithio â rapwyr brwdfrydig blwyddyn 4, Ysgol Gwenllian, Cydweli. Ces siom ar yr ochr orau gyda chymreictod a chryfder Cymraeg nifer o’r criw. Cafwyd hwyl yn gwneud ymarferion I gynhesu’r ddawn rapio, gan weithio ar odli a chyflythrennu ac yna, gyda hanner awr i fynd, daeth yn bryd ymlafnio i greu rap.  Daeth hwnnw at ei gilydd yn syndod o dda. Y gobaith y w cael recordiad o’r campwaith gan y disgyblion i allu ei rannu maes o law.
 
Diolch i bawb am gyfrannu at greu datlhiad cofiadwy i mi yn bersonol ar ddiwrnod Dewi Sant, gan obeithio y cafwyd llawer o hwyl a dysgu ar hyd y ffordd.
Picture
1 Comment

    Blog Aneirin

    O dro i dro byddaf yn postio ambell flog am bethau y bues i'n eu gwneud yn fan hyn.

    Archif

    March 2020

    Categori
    ​

    All

    RSS Feed

Powered by Create your own unique website with customizable templates.
  • HAFAN / HOME
  • BARDDONI / POETRY
  • LlYFRAU / BOOKS
  • DARLLEDU / BROADCASTING.
  • Ieithydd / Linguist
  • Blog
  • Cysylltu / Contact