MY SITE
  • HAFAN / HOME
  • BARDDONI / POETRY
  • LlYFRAU / BOOKS
  • DARLLEDU / BROADCASTING.
  • Ieithydd / Linguist
  • Blog
  • Cysylltu / Contact

Barddoni

Ni all pwdryn gychwyn gwaith, heb orffwys gynta'n berffaith.”
Picture
Picture
Cerddi - Rwy'n cyfansoddi cerddi ar gynghanedd, yn rhydd ac mewn amrywiaeth o fesurau, o'r rhupunt i rap. Rwy'n cyhoeddi fy ngherddi ar fy nghyfrif Twitter, mewn cylchgronau ac mewn llyfrau, yn bennaf. Gobeithiaf allu rhannu mwy o gerddi gyda chi ar y wefan hon, maes o law.

Gweithdai - Gallaf gynnig gweithdai barddoni ac ysgrifennu creadigol i bobol o bob oedran, o blant meithrin i bensiynwyr. Mae'r pwyslais ar fwynhau drwy greadigrwydd a hefyd ar ennyn hyder drwy berfformio.

Podlediad Clera - O fis i fis rwyf fi a'r Prif Lenor Eurig Salisbury yn cynhyrchu a chyflwyno Podlediad Clera - llwyfan misol yng nghwmni ein Posfeistr, Gruffudd Antur, a gwesteion amrywiol i drafod  pob math o agweddau ar farddoni gan gynnwys cerdd newydd gan fardd gwahanol bob tro. 

Talyrna ac Ymrysona - Rwy'n aelod o dim Tir Iarll ar raglen Talwrn y beirdd, BBC Radio Cymru ac yn ymrysona ers 2004 gyda thîm ymryson Y Deheubarth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

​Comisiynu - Cysylltwch er mwyn comisiynu cerdd at unrhyw achlysur. Trafodwn y telerau a manylion gwrthrych y gerdd ar ebost.

Ambell Gerdd...
'Gweld y Gorwel', o'r dilyniant 'Cadwyn y Colli Nabod' ('O Annwn i Geltia', Cyhoeddiadau Barddas, 2012)

Isod mae cerdd gaeth o'm heiddo sydd ar faes llafur y cwrs TGAU Llenyddiaeth Gymraeg. Mae'n fraint fod disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru yn dod ar draws fy ngwaith ac rwyf wedi ymweld â sawl ysgol ledled y wlad, yn ddosbarthiadau blwyddyn 9, 10 ac 11, i drin a thrafod y gerdd.
Picture




​Cerddi Bardd y Mis Radio Cymru

Bûm yn ddigon ffodus i gael bod yn Fardd y Mis Radio Cymru, sef cynllun arloesol ein Gorsaf Radio Genedlaethol i wahodd bardd gwahanol i fod yn fardd llys yr orsaf dros gyfnod o fis gan allu cyfrannu at amrywiol raglenni a chanu am bob math o bynciau.

Dyma linc i'r cerddi a'r sgyrsiau a gafwyd ym mis Mehefin 2019 a minnau'n dal i fyw yn Llydaw ar y pryd:
https://www.bbc.co.uk/programmes/p07c83bj

Bardd y Mis, Hydref, 2015
Y tro blaenorol y ces fod yn Fardd y Mis, Radio Cymru, roedd cryn dipyn o gynnwrf yn y byd chwaraeon yng Nghymru ar y pryd. O Gymru'n sicrhau ei lle yn nhwrnament bêl-droed yr Ewros i Hanner Marathon Caerdydd a Chwpan Rygbi'r Byd yn digwydd. Roedd hi'n anorfod felly fod sawl cerdd yn mynd i'r cyfeiriad yna.

Dyma gynnyrch y cyfnod hwnnw:
https://www.bbc.co.uk/programmes/articles/2qL7JZqvcdbwFmSFMRGLWvp/aneirin-karadog-bardd-hydref-2015

Pastwn Rap:
Defnydd anhraddodiadol o'r hen grefft Gymraeg a gollwyd, sef pastynu.

Cysylltwch / Kasit ur Gerig / Get In Touch

Gallwch gysylltu drwy glicio isod.
​Kasit ur gerig dre glika dindan.
Get in touch by clicking below.
contact me
Powered by Create your own unique website with customizable templates.
  • HAFAN / HOME
  • BARDDONI / POETRY
  • LlYFRAU / BOOKS
  • DARLLEDU / BROADCASTING.
  • Ieithydd / Linguist
  • Blog
  • Cysylltu / Contact