Diolch i Fenter Iaith Gwendraeth Elli ces y fraint o ddathlu gŵyl ein nawddsant yn y ffordd orau posib, sef drwy foli Dewi Sant ar ffurf tribannau morgannwg ac ar ffurf rap!
Yn y bore ces fynd i leoliad hyfryd siop fferm Parc y Bocs, Cydweli, i gydweithio â phump o ddysgwyr o allu amrywiol o ledled Cwm Gwendraeth. Ces foment fymryn yn bryderus wrth ddechrau ac wrth i bawb gyflwyno ei gilydd, pan ddywedodd mewn o’r enw Sarah wrtha i mai dymas oedd ei gwers Gymraeg gyntaf! Bu bron imi dagu ar fy nghawl cennin! Gwahoddwyd fi yno i gynnal sesiwn ysgrifennu crfeadigol gyda dysgwyr! Ond buan y daeth Sarah I ddangos ei gallu naturiol gyda ieithoedd wrth inni fwrw mlaen i gyflwyno mesur y triban morgannwg i’r criw, gan ddadansoddi yn gyntaf ‘Ym Mhontypridd mae `nghariad’. Dyma wedyn fynd ati I geisio cyfansoddi triban neu ddau yn dyrchafu Dewi. Y cam cynta foedd hel gwybodaeth amdano, cyfle i bawb sgwrsio yn eu cymraeg gorau i rannu eu hoff chwedl neu goel am Dewi ac addysgu eraill. Ni wyddwn i fod Dewi, yn honedig, wedi dod â gwenyn yn ôl gydag e o’r Iwerddon. Dyna esbonio’r cyfeiriad at wenyn yn y pennill cyntaf. Pob clod i bob un o’r eginfeirdd, gan iddyn nhw gyfansoddi’r ddau driban canlynol ar y cyd: Yn Nhyddewi mae gwenyn, Yn nhyddewi mae cennin, Yn Nhyddewi mae mab y wyrth I fynd trwy byrth y brenin. Yn Nhyddewi mae pluen, Yn Nhyddewi mae c’lomen, Yn Nhyddewi mae mab I Non A glendid calon lawen. Glenda, Heather, Liz, Sarah a Liza a’i cant Cyfle wedyn I gydweithio â rapwyr brwdfrydig blwyddyn 4, Ysgol Gwenllian, Cydweli. Ces siom ar yr ochr orau gyda chymreictod a chryfder Cymraeg nifer o’r criw. Cafwyd hwyl yn gwneud ymarferion I gynhesu’r ddawn rapio, gan weithio ar odli a chyflythrennu ac yna, gyda hanner awr i fynd, daeth yn bryd ymlafnio i greu rap. Daeth hwnnw at ei gilydd yn syndod o dda. Y gobaith y w cael recordiad o’r campwaith gan y disgyblion i allu ei rannu maes o law. Diolch i bawb am gyfrannu at greu datlhiad cofiadwy i mi yn bersonol ar ddiwrnod Dewi Sant, gan obeithio y cafwyd llawer o hwyl a dysgu ar hyd y ffordd.
1 Comment
|
Blog AneirinO dro i dro byddaf yn postio ambell flog am bethau y bues i'n eu gwneud yn fan hyn. ArchifCategori
|