MY SITE
  • HAFAN / HOME
  • BARDDONI / POETRY
  • LlYFRAU / BOOKS
  • DARLLEDU / BROADCASTING.
  • Ieithydd / Linguist
  • Blog
  • Cysylltu / Contact

Blog

Na Sefwch Ger Fy Medd...

6/15/2026

0 Comments

 
Na Sefwch Ger Fy Medd…
(addasiad o ‘Do not stand at my grave and weep’, gan Mary Elizabeth Frye.)
 
Na sefwch ger fy medd gan wylo,
Nid wyf yno, nid wyf yn huno.
Wyf fil o wyntoedd sy’n chwythu’n gryf
Wyf blu eira sy’n disgyn yn ddi-rif,
Wyf gawodydd tyner, wyf goflaid y glaw’n
Cynganeddu â’r haul i aeddfedu’r grawn,
Wyf fudandod y bore drwy’r oriau mân,
Wyf giwed o gantorion ar gangen yn gân,
Wyf nodau’r adar a’u halaw dlos,
Wyf lewyrch y sêr ar hyd y nos,
Wyf ddolydd o baill sy’n cydio’n yr awel,
Wyf hefyd yn llonyddwch ystafell dawel.
Na sefwch ger fy medd, da chi,
Nid wyf yno. Ni hunais i.
 
 
Addasiad: Aneirin Karadog
0 Comments



Leave a Reply.

    Blog Aneirin

    O dro i dro byddaf yn postio ambell flog am bethau y bues i'n eu gwneud yn fan hyn.

    Archif

    March 2020

    Categori
    ​

    All

    RSS Feed

Powered by Create your own unique website with customizable templates.
  • HAFAN / HOME
  • BARDDONI / POETRY
  • LlYFRAU / BOOKS
  • DARLLEDU / BROADCASTING.
  • Ieithydd / Linguist
  • Blog
  • Cysylltu / Contact